Gemau Paralympaidd Gaeaf Beijing 2022
Canlyniadau
Mawrth 05
Mawrth 06
Mawrth 07
Mawrth 09
Mawrth 10
Mawrth 11
Mawrth 12
Athletwyr Cymraeg sy'n cystadlu yn Beijing 2022
Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB yn Tsieina yn ystod yr gaeaf:
Stephen Thomas
Chwaraeon
Para Sgïo Nordic // LW12Dyddiad Geni
05 / 01 / 1977O
Y BarriAr ôl cynrychioli Paralympics GB yng Ngemau Paralympaidd yr Haf a’r Gaeaf, Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022 fydd chweched Gemau Paralympaidd Steve lle bydd yn cystadlu am fedal yn y cystadlaethau sgïo Traws Gwlad Para Nordig.
Ganwyd Steve yng Nghwm Ogwr a symudodd i Ben-y-bont ar Ogwr gerllaw pan oedd yn ddeg oed. Chwaraeodd Rygbi o dan 18 oed dros Gymru cyn dal septisemia meningococaidd. Rhoddwyd Steve mewn coma am chwe wythnos a chafodd lawdriniaeth i achub ei fywyd, gan arwain at dorri ei ddwy goes o dan y pen-glin.
Ar ôl astudio Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn APCC yng Nghaerdydd, mewn cyfarfod ar hap mewn Eisteddfod Genedlaethol cafodd Steve ei gyflwyno i hoci sled iâ, a dod yn rhan o dîm Paralympics GB a oedd yn ceisio cymhwyso ar gyfer Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2002 yn Utah.
Ar ôl dod mor agos, roedd ef a’r garfan yn fwy penderfynol fyth a phedair blynedd yn ddiweddarach fe wnaethant gymhwyso ar gyfer Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Turin yn 2006; yr uchafbwynt oedd curo'r wlad gartref, Yr Eidal, yn y camau grŵp.
Erbyn hyn roedd Steve yn cyfuno chwaraeon y gaeaf gyda hwylio – ac yn 2006 daeth yr unig athletwr i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd yr Haf a’r Gaeaf y flwyddyn honno!
Enillodd Steve dair medal aur ym Mhencampwriaethau Para Hwylio y Byd – yn Søndeborg (Denmarc) yn 2005, Perth (Gorllewin Awstralia) yn 2006 ac ym Melbourne yn 2015.
Ar ôl cynrychioli Paralympics GB mewn hwylio rhwng 2004 a 2016, ac ar ôl gyrfa hoci iâ ryngwladol nodedig, daeth Steve allan o ymddeoliad byr yn 2018 i ddechrau cymryd rhan mewn para sgïo Nordig.
Cystadlodd mewn sgïo Para Nordig rhyngwladol am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd 2018 yn Vuokatti (y Ffindir) a bydd yn awr yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Beijing yn y traws gwlad.
Uchafbwyntiau ei Yfra
2018 – Cystadlu’n rhyngwladol am y tro cyntaf yn y sgïo Para Nordig, Cwpan y Byd (Vuokatti, Y Ffindir)
2016 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Rio, Brasil)
2015 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Melbourne, Awstralia)
2012 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Llundain)
2012 – Efydd, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Harbwr Charlotte, Florida)
2011 – Arian, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Weymouth)
2010 – Arian, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Medemblik, Yr Iseldiroedd)
2008 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Beijing, Tsieina)
2006 – Tîm hoci iâ Paralympics GB, Gemau Paralympaidd y Gaeaf (Turin, Yr Eidal)
2006 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Perth, Awstralia)
2005 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Sønderborg, Denmarc)
2004 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Athen, Groeg)
2003 – Efydd, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Athen, Groeg)
Cymryd Rhan

#Ysbrydoli
Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?
Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?
Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.
Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:
Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli
