Ar ôl cynrychioli Paralympics GB yng Ngemau Paralympaidd yr Haf a’r Gaeaf, Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022 fydd chweched Gemau Paralympaidd Steve lle bydd yn cystadlu am fedal yn y cystadlaethau sgïo Traws Gwlad Para Nordig.
Ganwyd Steve yng Nghwm Ogwr a symudodd i Ben-y-bont ar Ogwr gerllaw pan oedd yn ddeg oed. Chwaraeodd Rygbi o dan 18 oed dros Gymru cyn dal septisemia meningococaidd. Rhoddwyd Steve mewn coma am chwe wythnos a chafodd lawdriniaeth i achub ei fywyd, gan arwain at dorri ei ddwy goes o dan y pen-glin.
Ar ôl astudio Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn APCC yng Nghaerdydd, mewn cyfarfod ar hap mewn Eisteddfod Genedlaethol cafodd Steve ei gyflwyno i hoci sled iâ, a dod yn rhan o dîm Paralympics GB a oedd yn ceisio cymhwyso ar gyfer Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2002 yn Utah.
Ar ôl dod mor agos, roedd ef a’r garfan yn fwy penderfynol fyth a phedair blynedd yn ddiweddarach fe wnaethant gymhwyso ar gyfer Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Turin yn 2006; yr uchafbwynt oedd curo'r wlad gartref, Yr Eidal, yn y camau grŵp.
Erbyn hyn roedd Steve yn cyfuno chwaraeon y gaeaf gyda hwylio – ac yn 2006 daeth yr unig athletwr i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd yr Haf a’r Gaeaf y flwyddyn honno!
Enillodd Steve dair medal aur ym Mhencampwriaethau Para Hwylio y Byd – yn Søndeborg (Denmarc) yn 2005, Perth (Gorllewin Awstralia) yn 2006 ac ym Melbourne yn 2015.
Ar ôl cynrychioli Paralympics GB mewn hwylio rhwng 2004 a 2016, ac ar ôl gyrfa hoci iâ ryngwladol nodedig, daeth Steve allan o ymddeoliad byr yn 2018 i ddechrau cymryd rhan mewn para sgïo Nordig.
Cystadlodd mewn sgïo Para Nordig rhyngwladol am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd 2018 yn Vuokatti (y Ffindir) a bydd yn awr yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Beijing yn y traws gwlad.
Uchafbwyntiau ei Yfra
2018 – Cystadlu’n rhyngwladol am y tro cyntaf yn y sgïo Para Nordig, Cwpan y Byd (Vuokatti, Y Ffindir)
2016 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Rio, Brasil)
2015 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Melbourne, Awstralia)
2012 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Llundain)
2012 – Efydd, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Harbwr Charlotte, Florida)
2011 – Arian, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Weymouth)
2010 – Arian, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Medemblik, Yr Iseldiroedd)
2008 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Beijing, Tsieina)
2006 – Tîm hoci iâ Paralympics GB, Gemau Paralympaidd y Gaeaf (Turin, Yr Eidal)
2006 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Perth, Awstralia)
2005 – Aur, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Sønderborg, Denmarc)
2004 – Tîm hwylio Paralympics GB, Gemau Paralympaidd yr Haf (Athen, Groeg)
2003 – Efydd, Pencampwriaethau Para Hwylio y Byd (Athen, Groeg)